Alps December Newsletter - Cymraeg

Alps December Newsletter - Cymraeg

Alps Logo

Cylchlythyr Rhagfyr Alps

Yn y rhifyn Nadoligaidd hwn o’r Cylchlythyr, mae gennym ni newyddion diweddar cyffrous i rannu gyda chi, a rhowch gynnig ar Restr Chwarae’r Nadolig Alps!

Oriau Swyddfa dros y Gwyliau

Bydd swyddfa Alps ar gau am y Nadolig o 5pm ar 21 Rhagfyr 2023 a bydd yn ailagor yn y Flwyddyn Newydd am 8:30am ar 3 Ionawr 2024.    


Alps heb ei lapio yn 2023

Rydym wedi cael 2023 anhygoel yn Alps!   Rydym wedi mynd i gynadleddau gwych, wedi meithrin partneriaethau addawol ac wedi darparu gwasanaeth o safon gydag adborth gwych gan gwsmeriaid. Rydym yn edrych ymlaen at yr hyn sydd gan 2024 i'w gynnig.

Cliciwch yma i weld adolygiad o flwyddyn Alps

I ddysgu rhagor am Alps yn CA4 neu lefel MAT, trefnwch arddangosiad

Gweminarau Alps

Gweminarau Mwyafu Cyflawniad

Barod, ewch! Ffug arholiadau a’r tu hwnt! Cynlluniwyd y gyfres hon o weminarau i roi cyngor ymarferol, cam wrth gam i chi ar sut i fwyafu cyrhaeddiad gyda Bl. 11 a Bl. 13 wrth i 15 wythnos olaf y flwyddyn academaidd nesáu.

Ymunwch â’n Gweminar CA5:

Dydd Mawrth 16 Ionawr | 3:30 PM

Cadwch le yma

Ymunwch â’n Gweminar CA4:

Dydd Iau 18 Ionawr | 3:30 PM

Cadwch le yma

Gweminar Hyrwyddwyr Summit

Sue Macgregor, o’n Tîm Addysg arbenigol, sy’n arwain ein Gweminar Hyrwyddwyr Summit. Cynlluniwyd y weminar hon ar gyfer arweinwyr Ymddiriedolaeth a Grŵp. Byddwn yn eich diweddaru ar sut i fwyafu’r defnydd o feddalwedd Summit Alps er mwyn olrhain cynnydd eich ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd. 

Cofrestrwch ar gyfer ein Gweminar Summit yma:

Dydd Mawrth 16 Ionawr | 3:30 PM

Cadwch le yma

Newyddion Alps!

Cadwch lygad am Alps yng Nghynhadledd HMC ar gyfer Penaethiaid Chweched Dosbarth yn Llundain ar 25 Ionawr 2024! Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chynadleddwyr newydd. Os nad ydych chi’n mynd i fod yn y digwyddiad, ond dal eisiau cael arddangosiad o Alps, cliciwch yma.

Dewch i gwrdd â Karolina, ein Dadansoddwr Busnes Iau gwych. Eisteddon ni i lawr gyda Karolina i ddysgu rhagor am gefndir ei gyrfa, sut brofiad oedd y 12 mis diwethaf yn gweithio gydag Alps a pha gyngor y byddai’n rhoi i rywun sydd am gychwyn gyrfa mewn Dadansoddeg Fusnes.  Cliciwch yma i ddarllen stori Karolina

Peidiwch ag anghofio...

Os ydych yn atgyfeirio ffrind ac mae’n prynu Alps o’ch atgyfeiriad byddwn yn rhoi gostyngiad i chi ar eich pris adnewyddu nesaf. Yn ogystal â hynny, po fwyaf yr atgyfeiriadau llwyddiannus rydych chi’n eu gwneud, mwyaf bydd y gostyngiad ar eich adnewyddu nesaf! Cliciwch yma i ‘atgyfeirio cyfaill’ a derbyn gostyngiad.

Diddordeb mewn Alps? 

Manteisiwch ar y dadansoddiad pwerus sydd gan Alps i’w gynnig ar gyfer eich MAT ac yn CA4. Mae ein systemau gwych yn gwneud gweithio gyda data yn hawdd iawn! Cliciwch yma i drefnu dangosiad ag un o aelodau ein tîm Alps cynorthwyol a chyfeillgar.

Hwyl yr Ŵyl!

Eleni, mae tîm Alps wedi rhannu eu hoff ganeuon y Nadolig gan greu rhestr chwarae llawn miri'r ŵyl i chi ei mwynhau hwyl yr ŵyl.


Cliciwch yma i wrando

Rydym ni yma i helpu

Mae ein tîm wrth law i helpu nawr a thrwy gydol y flwyddyn felly cysylltwch â ni os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau.

Y Tîm Alps

Ffoniwch ni ar 01484 887 600 
neu e-bostiwch ni yn: info@alps.education

    • Related Articles

    • Alps December Newsletter

      Alps December Newsletter Merry Christmas from the Alps Team! This festive edition of the Newsletter is packed with exciting updates and useful information regarding our Christmas opening hours and how you can get involved with our plans for 2024. ...
    • Alps November Newsletter

      Alps November Newsletter In this edition of the Newsletter, we have some exciting updates to share with you. Read on for news about Progress 8 and our latest award, plus you’ll find links to the final Alps Champions webinars of the year and sign up ...
    • Alps Early September Newsletter

      Alps September Newsletter Welcome back! We hope you had a wonderful and restful Summer break. This early September edition of the Newsletter is packed with everything you need to hit the ground running this academic year; including support articles, ...
    • Alps March Newsletter

      Alps March Newsletter In this newsletter, catch up with the exciting things that have been happening at Alps this March. We've attended some fantastic events, released two amazing new features in Connect and shared valuable information through ...
    • Alps July Newsletter 2023

      Alps July Newsletter In this July newsletter learn about how our updated Knowledge Base makes it easier for you to be informed, read essential articles that will help you set high expectations at KS4 with Alps Connect, plus, tap into helpful ...